Fuel quay

Gwybodaeth Gyffredinol

  • Y SWYDDFA A’R DDERBYNFA  

    Fe ddefnyddir Sianel 80 VHF i wrando trwy'r amser. Cadwch lygaid ar yr hysbysfyrdd mawr yn y cyntedd wrth ddod i mewn lle ceir pob math o wybodaeth fuddiol, yn amrywio o rybuddion mordwyo i rifau ffôn tacsis. Cewch gasglu post sy'n cyrraedd ar eich cyfer o'r dderbynfa a gall staff y marina bostio unrhyw bost sydd i'w anfon allan.

  • DIOGELWCH  

    Mae patrôl nôs ar ddyletswydd rhwng 18:00 a 06:00, saith diwrnod yr wythnos. Gofynnir i chi ein cynorthwyo os gwelwch yn dda trwy sicrhau bod pob eitem rydd yn cael ei rhoi dan glo neu ei rhwymo'n dynn. Rhoddir cardiau diogelwch gyda rhif unigol arnynt i'r rhai sy'n berchen angorfa dan gytundeb blynyddol. Rhoddir rhif PIN i ymwelwyr, i'w ddefnyddio i ddod i mewn trwy adwy'r ysgraffau ac mewn cyfleusterau eraill. Newidir y rhifau'n rheolaidd.

    Ceir rhwystrau i amddiffyn maes parcio'r perchnogion angorfeydd parhaol a dim ond trwy ddefnyddio cerdyn diogelwch dilys y gellir ei ddefnyddio. Rhaid i bob car arall ddefnyddio'r maes parcio mawr cyffredinol. Peidiwch â gadael eich cerbyd yn y man dadlwytho y tu ôl i'r prif adeilad.

  • GOFYNION YSWIRIANT   

    Mae Hafan Pwllheli yn dilyn y canllawiau a gyhoeddir gan Gymdeithas y Harborau Cychod Hwylio a Ffederasiwn Diwydiannau Morol Prydain, sydd yn argymell y dylai pawb sy'n defnyddio Harbwr gael yswiriant trydydd parti o leiaf £5,000,000. Gellir cael copi o'r rheolau a'r rheoliadau yn y dderbynfa.

    Os byddwch yn cyflogi contractwr annibynnol i weithio ar eich cwch, rhowch wybod i ni ymlaen llaw os gwelwch yn dda fel y gallwn sicrhau y gwneir popeth sydd ei angen a phopeth sy'n ofynnol o safbwynt yswiriant yn y modd cywir.

    Dylai perchnogion angorfeydd fodloni eu hunain eu bod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i rwystro lladrad neu ddifrod. Mae ceir ac ôl-gerbydau'n cael eu parcio ar risg y perchennog. Dylai pob ôl-gerbyd a chawell sy'n cael ei storio ar safle'r cwmni fod wedi eu marcio'n glir gydag enw'r cwch neu enw'r perchennog.

  • CÔD YMDDYGIAD AMGYLCHEDDOL   

    Rydym yn awyddus i gynnal cydbwysedd rhwng cychod hamdden a buddiannau amgylcheddol ac rydym yn ymrwymedig i gyflawni ein dyletswyddau sy'n ymwneud â chadwraeth, rheoleiddio a gwella'r marina a'r cyffiniau.

    Mae gennym reolau llym sy'n cwmpasu:

    • Gwaredu dŵr halogedig o waelod gwch neu doiledau cemegol
    • Gwaredu gwastraff domestig, batris, olew injan, paent ac eitemau wedi'u hailgylchu megis gwydr, papur, plastig a chardfwrdd
    • Cael gwared ar baent “Antifouling”
    • Tanwydd
    • Grit neu sgwrio â thywod a defnyddio golchwyr dan bwysedd
    • Barbeciw
    • Anifeiliaid anwes
    • Bwydo bywyd gwyllt lleol
    • Chwarae cerddoriaeth uchel

    Os ydych yn ansicr am unrhyw beth, gofynnwch yn y dderbynfa.

  • CYFYNGIAD CYFLYMDRA   

    Ni ddylai unrhyw gwch sy'n mynd allan o'r harbwr nac yn dod i mewn deithio ar gyflymdra mwy na 4 milltir mor. A fyddwch cystal hefyd â chadw golwg ar y tonnau a grëir gennych o'ch ôl. Mae'r Harbwr Feistr yn monitro'r holl draffig yn yr harbwr.

  • ANGORFEYDD, LLINELLAU A RHAFFAU   

    Dim ond rhaffau o ansawdd da y dylid eu defnyddio ac fe ddylid eu gwarchod rhag breuo trwy ddefnyddio chwerfannau clir. Dylai'r ffendars fod o ansawdd uchel hefyd. Dylid clymu'r rhain yn dynn a'u marcio gydag enw'r cwch. Ar yr pontwn, mae'r cletiau wedi eu gwneud o haearn bwrw, felly peidiwch â defnyddio cyplynnau dur i roi'r cwch ynghlwm wrthynt. Dylai pob hwylraff gael ei chlymu'n dynn er lleihau swn.

  • YMWELWYR   

    Mae'n rhaid i bob cwch sy'n ymweld â'r marina adael ei angorfa erbyn 12 hanner dydd ar y diwrnod y mae'n ymadael. Mae angorfa ymwelwyr iw dalu o flaen llaw. Os gwelwch yn dda hysbysu’r derbynfa wrth ymadael.

  • LLITHRFA   

    Cedwir llithrfa’r Hafan ar gyfer defnydd masnachol yn unig (Parcio a Lansio). Ni chaniateir cychod gweini.

  • TOILEDAU A CHAWODYDD   

    Ceir toiledau a chawodydd ar gyfer perchnogion angorfeydd yn yr adeilad mwynderau. Mae'r rhain ar agor trwy gydol y flwyddyn, ac eithrio ar yr adegau pan fyddant ar gau i gael eu glanhau'n feunyddiol. Ceir cyfleusterau ar wahân ar gyfer y cyhoedd ac ar gyfer pobl anabl.

  • GOLCHDY   

    Mae golchdy ar gael at ddefnydd perchnogion angorfeydd ac ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn. Fe'i lleolir yn y prif adeilad mwynderau. Mae'r peiriannau golchi a'r peiriannau sychu dillad yn gweithio drwy rhoi arian parod ynddynt. Gellir cael rhif PIN ar gyfer y drws gan y dderbynfa.

  • TROLÏ AU  

    Darperir y rhain er hwylustod i'r holl berchnogion angorfeydd. Ewch â'r trolïau yn ôl i'r man lle maent yn cael eu cadw, os gwelwch yn dda, fel y byddant yn barod ar gyfer y perchennog angorfa nesaf. Petai troli yn cwympo i mewn i'r d^wr am unrhyw reswm, rhowch wybod i staff y marina yn ddiymdroi os gwelwch yn dda fel y gallwn ei gael allan. Ni ddylai plant gael ei cludo yn y troliau ar unrhyw adeg.

  • DŴR FFRES A THRYDAN  

    Ceir dŵr ffres ar yr holl ysgraffau a cheir pwyntiau p^wer trydan hefyd ar y rhan fwyaf ohonynt. Cofiwch, oherwydd deddfwriaeth iechyd a diogelwch, mae'n rhaid i gwsmeriaid ddod â'u pibellau dwr a ceblau trydan eu hunain.

  • 24/7 TANWYDD   

    Mae ein cei tanwydd hunanwasanaeth yn gwasanaethu disel a phetrol. Ar agor 24/7 ac mae wedi'i leoli wrth ymyl y doc codi cychod (gweler cynllun y marina). Gellir talu gan ddefnyddio unrhyw gerdyn credyd neu ddebyd. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pwmp.

    Darperir disel yn ôl gyriant 60:40 safon Cyllid a Thallau EM:rhaniad gwresogi.

    Rhaid peidio â llenwi tanwydd ar y pontwnau. Rhaid mynd â chychod i'r cei tanwydd.

  • NWY A RHEW   

    Gellir prynu nwy calor a 'Camping Gaz' gan y dderbynfa. Mae rhew hefyd ar gael i'w ddefnyddio mewn blychau oer.

  • GWAREDU GWASTRAFF  

    Darperir sgip fawr yn y compownd ar gyfer cael gwared ag ysbwriel. Mae yna gynwysyddion arbennig hefyd ar gyfer dyddodi olew gwastraff, hidlwyr olew, hen fatris, paent a thoddyddion a gwydr. Mae yna hefyd gyfleuster pwmpio toiled cemegol ar y cei danwydd. Helpwch ni gadw'r safle yn lân ac yn daclus. Os gwelwch unrhyw sbwriel neu ollyngiadau, rhowch wybod i staff y marina fel y gallant ddelio ag ef.

  • TELERAU BUSNES A RHEOLIADAU   

    Lawr llwythwch gopi o'n Telerau Busnes a Rheoliadau. Mae pob defnydd o Harbwr Hafan Pwllheli yn ddarostyngedig i'r rheoliadau hyn yn ychwanegol at Delerau Busnes Ffederasiwn Morol Prydain BMF), y mae Awdurdod yr Harbwr (Cyngor Gwynedd) yn aelod ohonynt. Arddangosir copi o'r Rheoliadau BMF ar yr hysbysfwrdd yn y dderbynfa. Os oes angen cyngor, arweiniad neu wybodaeth bellach arnoch chi, ffoniwch swyddfa Hafan ar 01758 701219.

Address

Hafan Pwllheli
Glan Don
Pwllheli
Gwynedd
LL53 5YT


Get in touch

  01758 701219

  VHF Ch80

 hafanpwllheli@gwynedd.llyw.cymru


Cyngor Gwynedd Logo

Hafan Pwllheli is owned by
Cyngor Gwynedd

© Copyright 2025 Hafan Pwllheli