Mae Hafan Pwllheli yn farina cyfeillgar a phoblogaidd. Mae gennym dros 400 o angorfeydd pontŵn gyda gwasanaethu'n llawn yn ogystal â chyfleusterau ardderchog ar y tir. Mae mynediad i'r harbwr yn bosibl i'r rhan fwyaf o gychod hwylio ar bron pob uchdwr o lanw, a gallwn ddarparu ar gyfer amrywiaeth eang o gychod hwylio gyda drafft dwfn i gychod mawr fodur.
Mae gan ein hiard gychod cyfleusterau llawn sy'n cynnwys symudiadau iard i gychod, codi a sgrwbio, camu, dadlwytho hwylbrennau, a gosod ar y lan. Mae ein deiliaid angorfeydd ac ymwelwyr hefyd yn cael eu gwasanaethu'n dda gan fusnesau morol lleol gyda dewis eang o siandler, broceriaeth, peirianwyr, rigiau a chanolfan hyfforddi RYA.
Gyferbyn a’r marina mae Plas Heli, y Ganolfan Ddigwyddiadau newydd Academi Hwylio Genedlaethol Pwllheli. Mae'r ganolfan yn ganolbwynt i ddigwyddiadau hwylio cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â phobl sydd am ddysgu sgiliau newydd a chymryd rhan gyda'r gamp am y tro cyntaf.
  Mae yna dros 400 o angorfeydd gyda gwasanaethu llawn gyda thrydan a dŵr
  Digon o angorfeydd i ymwelwyr
  Teclyn codi cychod 50 tunnell sydd yn teithio, hefyd craen symudol ar gael
  Storio ar y lan ar gyfer 200 o gychod gyda thrydan a dŵr
  Toiledau ardderchog, cawodydd ac ystafell golchi dillad gyda mynediad 24 awr
  Wi-Fi am ddim ar gael drwy gydol y marina
  CCTV a mynediad electronig i'r giât y pontwns
  Cei tanwydd gyda chyfleuster pwmp carthion arbennig
  Cyfleusterau ailgylchu a gwaredu gwastraff arbenigol
  Maes parcio deiliaid angorfeydd'
  Gwasanaethau iard gychod ar y safle
  Safle broceriaeth cychod
  Siandler, peirianwyr a gwasanaeth rigiau
  Hyfforddiant RYA ar gael ar y safle
  Bar a bwyty yng nghanolfan Plas Heli
Hafan Pwllheli
Glan Don
Pwllheli
Gwynedd
LL53 5YT
  01758 701219
  VHF Ch80
 hafanpwllheli@gwynedd.llyw.cymru
Hafan Pwllheli is owned by
Cyngor Gwynedd