Mae Hafan Pwllheli yn un o'r lleoliadau hwylio gorau yng Ngorllewin Prydain, elwa o gyfleusterau rhagorol a mynediad i rai o'r dyfroedd hwylio gorau yn y DG.
Mae'r Pen Llŷn yn enwog am ei batrwm amrywiol o wyntoedd teg, amodau llanw a môr cymedrol, gyda golygfeydd ysblennydd o fynyddoedd Eryri yn y cefndir. Mae'r arfordir garw yma wedi cael ei ddynodi yn 'Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol'.
Mae tîm Hafan yn falch o gyhoeddi bod y marina bellach ar agor i holl ddeiliaid yr angorfeydd. Cyhoeddwyd Rhybudd i Forwyr ar 6 Gorffennaf sy'n nodi'r mesurau diweddaraf.
Cynhyrchwyd taflen i dynnu sylw at y camau syml y gall deiliaid angorfeydd eu cymryd i gadw cychod yn ddiogel i bawb yn ystod eu hymweliad ac atal trosglwyddo Covid-19.
Dadlwythwch eich copi.
Hafan Pwllheli
Glan Don
Pwllheli
Gwynedd
LL53 5YT
  01758 701219
  VHF Ch80
 hafanpwllheli@gwynedd.llyw.cymru
Hafan Pwllheli is owned by
Gwynedd Council