Boatyard_Services

Diogelwch

Dril tân

Bydd y larwm tân ar y pontwns yn cael ei harchwilio unwaith y mis. Bryd hynny, bydd y larwm tân yn canu am 5 eiliad. Mewn argyfwng, bydd y larwm yn canu’n ddi-dor.

Os bydd tân ar gwch

  1. Canwch y larwm, trwy taro’r botwm ar un o’r tri polion coch ar y pontwns.
  2. Sicrhewch nad oes neb yn y cyffiniau.
  3. Ffoniwch 999.
  4. Peidiwch â cheisio diffodd y tân oni fydd yn gwbl ddiogel i chi wneud hynny. Dylech ddefnyddio’r offer diffodd yn y cabinedau argyfwng.
  5. Ewch yn ddigon pell o’r cwch, yn groes i gyfeiriad y gwynt (PEIDIWCH Â RHEDEG).
  6. Peidiwch â chreu rhwystr ar y bont - bydd ar y gwasanaethau brys angen mynediad clir.
  7. Ufuddhewch i gyfarwyddiadau staff y marina.
  8. Peidiwch â dychwelyd i’r cwch hyd nes ddywedir wrthych ei bod yn ddiogel i chi wneud hynny..

Os yw’r larwm yn canu

  1. Gadewch y pontwns ar unwaith a mynd i’r pwynt cyfarfod tân. PEIDIWCH Â RHEDEG.
  2. Peidiwch â chreu rhwystr ar y bont.
  3. Ufuddhewch i gyfarwyddiadau staff y marina instructions.


Côd Morol Gwynedd

Cadwch olwg da allan a chadwch yn ddigon pell. Peidiwch â mynd at famaliaid morol, gadewch iddynt ddod atoch chi. Mae angen gweithredu pob cwch gyda gofal a sylw ar gyfer diogelwch preswylwyr a pharch at bob defnyddiwr môr arall. Mae'r cod hwn yn berthnasol i bawb sydd yn defnyddio cwch hamdden.

Os ydych yn dod ar draws dolffiniaid, llamhidyddion neu forlo yn y môr:

  • Arafwch yn raddol i gyflymder lleiaf. Peidiwch â gwneud newidiadau sydyn mewn cyflymder neu newid cwrs.
  • Peidiwch â llywio yn uniongyrchol tuag atynt neu ddod o fewn 100m.
  • Peidiwch â cheisio cyffwrdd, bwydo neu nofio gyda nhw.
  • Cymerwch ofal ychwanegol i osgoi anifeiliaid ifanc.
  • Peidiwch â mynd at forlo sydd yn gorffwys ar y lan, a pheidiwch â mynd i mewn i ogofâu môr yn ystod tymor geni (1 Awst - 31 Hydref).
  • Peidiwch â thaflu sbwriel neu offer pysgota i'r môr.
  • Peidiwch â gwneud unrhyw sŵn diangen ger yr anifeiliaid.

Adar:
  • Cadwch allan o glogwyni yn ystod tymor bridio (1 Mawrth - 31 Gorffennaf).
  • Peidiwch â gwneud unrhyw sŵn diangen yn agos i'r clogwyni.
  • Cadwch yn glir o grwpiau o adar sydd yn gorffwys neu'n bwydo ar y môr.

Address

Hafan Pwllheli
Glan Don
Pwllheli
Gwynedd
LL53 5YT


Get in touch

  01758 701219

  VHF Ch80

 hafanpwllheli@gwynedd.llyw.cymru


Cyngor Gwynedd Logo

Hafan Pwllheli is owned by
Cyngor Gwynedd

© Copyright 2024 Hafan Pwllheli